Title | : | 'Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru' |
---|---|---|
Author | : | Richard Wyn Jones |
Release | : | 2013-07-15 |
Kind | : | ebook |
Genre | : | Political Science, Books, Politics & Current Events |
Size | : | 410503 |
Ers degawdau clywyd cyhuddiadau cyson o du Cymry uchel eu parch fod cenedlaetholwyr Cymreig wedi cydymdeimlo â Ffasgaeth yn ystod dyddiau duon y 1930au a’r Ail Ryfel Byd – cyhuddiad a fyddai’n pardduo enw unrhyw elyn gwleidyddol. Yn y gyfrol arloesol hon, mae sylwebydd gwleidyddol amlycaf Cymru yn pwyso a mesur gwirionedd y cyhuddiadau. Yn ogystal â bwrw goleuni newydd ar agweddau Plaid Cymru a’i harweinwyr yn ystod y cyfnod hanesyddol dan sylw, mae’r llyfr yn cyflwyno trafodaeth heriol ar natur diwylliant gwleidyddol y Gymru gyfoes. |